Beth fydd y Gronfa'n gofyn amdano
Mae'r adran hon yn darparu arweiniad cyffredinol ar yr hyn rydym yn debygol o ofyn amdano mewn ceisiadau ariannu. Serch hynny, weithiau gofynnwn am wybodaeth benodol ar gyfer rhaglenni ariannu penodol felly dylech bob amser gyfeirio at a dilyn nodiadau arweiniad a ffurflen ymgeisio'r rhaglen benodol rydych yn ymgeisio iddi.
Byddwn yn gofyn i chi adrodd am gynnydd tuag at eich canlyniadau arfaethedig, ond rydym hefyd yn eich annog i gyflawni hunanwerthuso er eich lles eich hun. Gallwch wneud hyn eich hun, neu gallwch gyflogi gwerthuswr allanol i'ch helpu (ac i gefnogi'r ffordd rydych yn casglu gwybodaeth i adrodd i ni am eich canlyniadau). Credwn fod hunanwerthuso a dysgu ohono'n helpu prosiectau a mudiadau i ddatblygu a gwella, felly rydym yn fodlon ystyried ariannu'r gost o wneud hynny.
Y newyddion da yw ei bod hi'n debygol y bydd cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng yr wybodaeth a gasglwch a'r hyn y mae ei angen arnoch ar gyfer hunanwerthuso, er y mae'n bosib y byddwch am gasglu mwy o wybodaeth ar gyfer hunanwerthuso, gan ddibynnu ar y ddysg benodol rydych wedi'i nodi fel rhywbeth sy'n ddefnyddiol i'ch mudiad, neu efallai at ddiben cydweithio ag eraill sy'n gweithio yn eich maes.
Bydd y nodiadau arweiniad ar gyfer pob un o'n rhaglenni yn eich hysbysu p'un a oes gennym unrhyw ofynion penodol o ran hunanwerthuso, neu gefnogaeth ar waith ar eich cyfer. I gael gwybod mwy am hunanwerthuso, ewch i'r tudalennau Ymchwil a Dysgu yn.